Home page – Welsh

Croeso i
Ysgol Pensaernïaeth Cymru sioe 2021

Croeso i sioe radd rithwir Ysgol Pensaernïaeth Cymru, a lansiwyd ddydd Gwener 10 Medi 2021 am 6pm. Ar ddiwedd blwyddyn eithriadol, mae’r sioe yn cynrychioli penllanw ymdrechion eithriadol ar draws pob rhan o Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn y flwyddyn academaidd 2020/21. Mae wedi cael ei churadu gan dîm ymroddedig o’n myfyrwyr, sydd wedi gweithio ar y cyd ar draws rhaglenni a blynyddoedd astudio dros fisoedd lawer. Wrth i chi deithio drwyddi, byddwch yn dod ar draws amrywiaeth o waith o raglenni sy’n amrywio o Bensaernïaeth (BSc a MArch) i Ddylunio Trefol, Dulliau Cyfrifiadurol mewn Pensaernïaeth, Cadwraeth Adeiladau Gynaliadwy ac Ymchwil Ôl-raddedig sy’n cynrychioli ehangder arbenigedd addysgu ac ymchwil yr ysgol. Byddwch hefyd yn gallu llywio’r sbectrwm o bynciau a materion pensaernïaeth y mae myfyrwyr wedi bod yn ymgysylltu â nhw trwy eu prosiectau ymchwil a dylunio. Nid yn unig y mae’r gwaith hwn yn cael ei gyflwyno mewn ffordd newydd ar ffurf arddangosfa ddigidol o’i gymharu â llawer o’n harddangosfeydd yn y gorffennol, ond mae hefyd yn deillio o addysgeg newydd, dulliau ymchwil, ffurfiau cyfathrebu a stiwdios digidol a ddatblygwyd ar gyflymder yng nghyd-destun y pandemig COVID-19. Fel Pennaeth yr Ysgol, rwy’n hynod falch o’r penderfyniad, y creadigrwydd a’r cydnerthedd y mae’n ei ddangos.

Yn ogystal â mwynhau’r sioe, ymunwch â ni ar gyfer digwyddiadau ein gŵyl arddangos, wythnos o hyd, y mae’r myfyrwyr yn ei chynnal rhwng 13 a 18 Medi.

Dr Juliet Davis, Pennaeth Ysgol Pensaernïaeth Cymru

YMUNWCH Â NI YN YR

ŴYL

13 – 17 MEDI

RYDYM YN DOD Â’R LLYFR BLWYDDYN YN ÔL!