Amdanom

AMDANOM

HOME > ABOUT

Am yr Ysgol

Sefydlwyd Ysgol Pensaernïaeth Cymru gyntaf ym 1920 a bydd yn dathlu ei chanmlwyddiant yn y flwyddyn academaidd 2021/22.

Dros y blynyddoedd, mae wedi tyfu i gael ei chydnabod fel ysgol bensaernïaeth sy’n arwain y byd ac sy’n gosod agenda. Mae ei chymunedau o fyfyrwyr a staff yn cynnwys unigolion o gefndiroedd cenedlaethol, diwylliannol a phroffesiynol amrywiol. Mae ei chryfderau yn y cyfuniad o draddodiad cryf o addysg bensaernïol, enw da rhyngwladol am ragoriaeth ymchwil, ac ymgysylltiad hirsefydlog â chwestiynau cynaliadwyedd mewn pensaernïaeth a datblygu trefol.

Adeilad Bute yng Nghanolfan Ddinesig hanesyddol Caerdydd yw ei chartref, ac mae’n darparu amgylchedd bywiog a chydweithredol ar gyfer addysgu, dysgu a gwaith ymchwil. Ar draws ei hamrywiol raglenni gradd, mae’n annog myfyrwyr i fynd i’r afael â sefyllfaoedd cymhleth a materion enbyd pensaernïaeth a threfoli yn y byd sydd ohoni gyda deallusrwydd a chreadigrwydd, gan feithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb i genedlaethau’r dyfodol.

Enwebeion Gwobrau

Enwebeion RIBA

Medal EfyddCecelia Huang
Quiyang Tang
Medal ArianSimran Lall
Lina Muhammad
Medal Traethawd HirGeorgina Myers

Enwebeion ar gyfer Gwobr Myfyrwyr AJ

MArchAnna Kryzanowska
BScQuiyang Tang
SustainabilityJosh Hayward

Cydnabyddiaethau

Cadeirydd

Georgina Myers

Cyd-gadeiryddion

Rory Flatt
MacOurley James
Zsofi Veres

Cydlynydd Arddangosfa Staff

Dr Hiral Patel

Tîm Curadu

Zsofi Veres
Eleni Alexandrou
Junal Barboza
Amanda CH
Rachel Livesey
Angeline Ng
Sangay Dorji Wangchuk
Methila Ganasooriar

Tîm y Cyfryngau Cymdeithasol

Eesha Fatima
Sandeep Kaur
Suvi Par
Georgina Myers
Harry Risk
Zsofi Veres

Gwefan

Succeed Digital
Steffan Williams
Georgina Myers

Y Tîm Digwyddiadau

Diwrnod 1 – Methila Ganasooriar
Diwrnod 2 – Rory Flatt
Diwrnod 3 – Georgina Myers
Diwrnod 4 – MacOurley James
Diwrnod 5 – Aidana Roberts
Cameron Jones, Elizabeth Hillier, Snigdha Khurana

Y Tîm Nawdd

Rory Flatt
Georgina Myers
Rose Nicholson
Methila Ganasooriar

Dylunio Gwobrau

Methila Ganasooriar
Arno Decorte
Methila Ganasooriar
Angeline Ng

Tîm y Llyfr Blwyddyn

Julia Garnelo
Rory Flatt
Zsofi Veres

Dylunio Logo

Julia Garnelo

Arddangosfa 3D

Dan Stone
Georgina Myers
Harry Risk
Methila Ganasooriar
Chayapa Udombunditkul

Diolch yn arbennig i’r holl fyfyrwyr a’u tiwtoriaid am ddarparu cynnwys y sioe.

Curadu

Gan gamu i’r 2020au, rydym i gyd wedi datblygu dealltwriaeth o’r angen brys i dderbyn ac ymchwilio i bwysigrwydd cynaliadwyedd, yn ogystal ag ehangu ein safbwyntiau a rhoi atebion arloesol ar waith.

Wrth greu dyfodol cynaliadwy ar gyfer y cenedlaethau i ddod, credwn fod angen inni ddod o hyd i gydbwysedd o ran …
…diogelu ein treftadaeth ac adfywio hanes
…dylunio gyda bywyd trefol, ac ar ei gyfer, a chreu lleoedd ac amgylcheddau trefol
…cymhwyso a chofleidio dulliau cyfrifiadurol er mwyn dylunio a chreu
…gweithredu ac ymateb i faterion gwleidyddol cyfoes
…ymateb i argyfwng y newid yn yr hinsawdd

Credwn mewn derbyn camgymeriadau’r gorffennol a dysgu oddi wrthynt. Gallwn addasu; adfywio ein hamgylcheddau presennol mewn ymateb i faterion cyfredol. Gallwn symud ymlaen; dod o hyd i ddulliau arloesol o ddylunio cymdeithasau’r dyfodol.

Byddwch yn gallu archwilio holl waith y myfyrwyr yng nghyd-destun y 5 thema hyn. Ochr yn ochr â’r rhain, gwnaethom ddatblygu ein hashnodau yn seiliedig ar waith y myfyrwyr a lanlwythwyd i ddangos yr amrywiaeth eang o ddulliau a ddefnyddiwyd i edrych ar gynaliadwyedd. Gallwch ddatgelu hanes eglwys sydd wedi’i hanghofio, ymuno â’r henoed sydd angen aros mewn cartrefi gofal, archwilio’r posibiliadau o gadw dŵr. Neu gallwch hyd yn oed gamu y tu mewn i dŵr wedi’i adeiladu o ddeunyddiau wedi’u hailwampio neu fod yn rhan o ymgyrch sy’n codi ymwybyddiaeth o gydraddoldeb hiliol.

Hoffem ni, y myfyrwyr yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, eich gwahodd i archwilio ein canfyddiadau beirniadol a chreadigol a’n hymatebion i argyfyngau ein hoes.

Noddwyr yr Arddangosfa

Noddwyr y Gwobrau