Homepage – Cymraeg

WSA Logo Black

Homepage – Cymraeg

Croeso / Welcome

Croeso/Welcome i fersiwn diweddaraf Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn Arddangos – sioe radd ar-lein yr Ysgol Pensaernïaeth yn 2022. 

Wrth edrych yn ôl dros y flwyddyn, mae’n amlwg nid yn unig bod llawer wedi’i gynhyrchu yn yr Ysgol, ond ei bod wedi cychwyn ar gyfnod newydd yn ei hoes yn y cyfnod bregus yn dilyn aflonyddwch pandemig Covid-19. 

Yr arwydd mwyaf diriaethol o hyn, a brofwyd ac a groesawyd gan bawb yn yr Ysgol dros y misoedd diwethaf, yw cwblhau’r gwaith adnewyddu ar ein cartref, Adeilad Bute ym mis Ionawr, ar drothwy ein canmlwyddiant. Ffurfiwyd y gwaith hwn gan syniadau o ymarfer cydweithredol, gofod hyblyg a chynaladwyedd cynhenid ailddefnyddio adeiladau, ac ailwampiwyd yr adeilad i greu cynhwysydd cyfoes ar gyfer ein hegni creadigol a’n gweithgareddau, gan gynnig cyfleoedd newydd ar gyfer addysgu, dysgu, ymgysylltu ac ymchwil ryngddisgyblaethol yn y broses. 

Mae gallu gwneud gwaith creadigol yn weladwy unwaith eto ar ôl cyfnodau clo a gweithio gartref yn 2020-21 wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu ffocws thematig sioe eleni – Proses. Gan wrthod yr obsesiwn a geir mewn llawer o gynhyrchu a chynrychiolaeth bensaernïol â chynhyrchion terfynol bregus, aeth curaduron yr arddangosfa ati i ddatgelu natur gwaith dylunio ei hun, yn cynnwys integreiddio gwahanol systemau gwybodaeth, offer a ffyrdd o weld, a chamau niferus yn y broses o ffurfio cynigion amodol. Mae prosiect y myfyrwyr, fel maen nhw’n ei weld, yn daith o archwilio yn hytrach na phortffolio o ddarluniau deniadol ‘gorffenedig’ yn unig. 

Rwy’n hynod ddiolchgar i’r tîm ymroddedig o staff a myfyrwyr, fu’n gweithio ar draws rhaglenni a blynyddoedd astudio dros fisoedd lawer, sydd wedi dod ag arddangosfeydd digidol a ffisegol cydgysylltiedig at ei gilydd eleni. 

P’un a ydych chi’n lleol ac yn gallu mwynhau ein sioe gradd ffisegol hefyd, neu os ydych chi ymhellach i ffwrdd, rwy’n gobeithio y cewch chi brofiad pleserus ac ysbrydoledig wrth brofi gwaith myfyrwyr Ysgol Pensaernïaeth Cymru 2021-22 yma.

Yr Athro Juliet Davis, Pennaeth Ysgol, Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Archwilio Ein Gwaith