Sioe Ysgol Pensaernïaeth Cymru 2022: ANORFFENEDIG

WSA Logo Black

Sioe Ysgol Pensaernïaeth Cymru 2022: ANORFFENEDIG

Mae anorffenedig yn cyfeirio at natur benagored ein gwaith pensaernïol. Caiff prosiectau myfyrwyr eu datblygu o fewn y cyfnod cyfyngedig sydd ar gael er mwyn sicrhau bod gofynion y cwricwlwm yn cael eu bodloni. Fodd bynnag, yn aml nid yw’r prosiectau wedi’u gorffen ar y pwynt hwnnw, ac yn cynrychioli moment yn nhaith ddysgu’r myfyrwyr. Mae’r sioe’n dathlu’r ffaith y gallai’r prosiectau gael eu hailddatblygu’n barhaus wrth i’r myfyrwyr symud ymlaen ar eu teithiau dysgu ac yn eu gyrfaoedd. 

Wrth guradu arddangosfeydd blaenorol, buom yn archwilio themâu’n canolbwyntio ar broblemau a’r materion oedd yn destun diddordeb i’r prosiectau. Eleni rydym ni wedi esblygu ein dull curadurol er mwyn dathlu’r prosesau pensaernïol a fabwysiadwyd i fynd i’r afael â gwahanol themâu. Yn yr ysbryd hwn, mae teipoleg anghonfensiynol pensaernïaeth – yr anorffenedig – yn amlygu natur benagored cynhyrchu pensaernïol. Mae hyn yn galluogi creu cysylltiadau rhwng prosesau pensaernïol a ddefnyddir i ymdrin ag amrywiol faterion pensaernïol – a thrwy hynny ddangos cyfoeth ymdrechion pensaernïol.

Mewn blynyddoedd blaenorol, buom yn archwilio themâu oedd yn canolbwyntio ar broblemau, ac arweiniodd hynny ni at amrywiol faterion yn ymwneud â chynaladwyedd. Eleni, symudwyd i ffwrdd oddi wrth ein dull cynnwys-benodol gan gyflwyno teipoleg anghonfensiynol, sef yr anorffenedig.

Mae anorffenedig yn symud i ffwrdd o’r caboledig a’r rhagddiffiniedig. Mae’r arddangosfa’n galw am broses guradu anorffenedig sy’n esblygu’n barhaus wrth i ymwelwyr lifo drwy’r gofod. Sefydlwyd y sioe anorffenedig hon fel man cychwyn. Rydym ni’n cyflwyno fframwaith y gellir ei archwilio a’i gwestiynu’n barhaus yn seiliedig ar y gwahanol lensys y mae’r ymwelwyr yn dod gyda nhw.

Rydym yn gosod ein gwaith yn y cyd-destun ehangach trwy’r arddangosfa anorffenedig hon. Un lle’r ydym ni’n datblygu ein gwaith dros amser trwy adborth academyddion, gweithwyr proffesiynol, a’r cyhoedd. Rydym ni’n agor yr arddangosfa i bawb, nid er mwyn canmol ffrwyth y flwyddyn hon ond i ddathlu ein cynnydd wrth i ni symud ymlaen ar ein taith ddysgu. Gwahoddwn chi i ymuno â ni ar y daith. Rydym ni’n agor ein prosesau a’n dulliau pensaernïol i chi gael cynnig eich beirniadaeth. Gobeithio y byddwch yn cymryd rhan yn ein prosesau drwy ryngweithio â’n gwaith.

Mae sioe anorffenedig yn caniatáu defnyddio lensys amrywiol i newid sut y caiff ei chanfod, ei dehongli a’i deall. Rydym ni am ddefnyddio fframwaith anorffenedig ein curadu i ddatblygu senarios cynaliadwy ar gyfer ein cenedlaethau yn y dyfodol. Mae sioe anorffenedig yn ein galluogi i ddechrau deialog gyda chi, dod â chi’n agosach at ein prosesau a chreu’r potensial i chi gymryd rhan yn ein gwaith. Gwahoddwn chi i gymryd rhan yn yr Ŵyl eleni, sy’n rhaglen o ddigwyddiadau dros 5 diwrnod i fyfyrio ar ein prosesau pensaernïaeth gydag academyddion a phobl broffesiynol. Mae’r Sioe Ffisegol wedi datblygu’n ddiwrnod i gloi’r Wyl eleni, er mai dim ond diwrnod arall yn ein taith ddysgu ydyw. Gwahoddwn chi i’n digwyddiadau i rannu eich syniadau a dod yn rhan o’n taith ddysgu. 

Mae ein gwefan wedi dod yn gasgliad o’n dulliau gweithio, ac rydym ni wedi cynllunio amrywiol bosibiliadau ar gyfer llywio drwy’r gwaith. Ar sail adborth gwefan arddangosfa’r flwyddyn flaenorol, cyflwynwn bedwar llwybr llywio: Thema, Cwrs, Myfyrwyr a Lleoliad.  Yn yr un modd, mae’r fframiau a ddefnyddir ar gyfer yr arddangosfa ffisegol wedi’u hadeiladu’n ofalus fel bod modd eu hailddefnyddio a’u haddasu ar gyfer ein sioeau yn y dyfodol. Yn wir, mae anorffenedig yn cynnig cyfleoedd o’r fath i werthuso, myfyrio ac esblygu’n barhaus.   

Beth yw anorffenedig?

Pam anorffenedig?

Mae anorffenedig yn symud i ffwrdd o’r caboledig a’r rhagddiffiniedig. Mae’r arddangosfa’n galw am broses guradu anorffenedig sy’n esblygu’n barhaus wrth i ymwelwyr lifo drwy’r gofod. Sefydlwyd y sioe anorffenedig hon fel man cychwyn. Rydym ni’n cyflwyno fframwaith y gellir ei archwilio a’i gwestiynu’n barhaus yn seiliedig ar y gwahanol lensys y mae’r ymwelwyr yn dod gyda nhw.

Sut mae’n anorffenedig?

Rydym yn gosod ein gwaith yn y cyd-destun ehangach trwy’r arddangosfa anorffenedig hon. Un lle’r ydym ni’n datblygu ein gwaith dros amser trwy adborth academyddion, gweithwyr proffesiynol, a’r cyhoedd. Rydym ni’n agor yr arddangosfa i bawb, nid er mwyn canmol ffrwyth y flwyddyn hon ond i ddathlu ein cynnydd wrth i ni symud ymlaen ar ein taith ddysgu. Gwahoddwn chi i ymuno â ni ar y daith. Rydym ni’n agor ein prosesau a’n dulliau pensaernïol i chi gael cynnig eich beirniadaeth. Gobeithio y byddwch yn cymryd rhan yn ein prosesau drwy ryngweithio â’n gwaith.

Beth yw dyfodol sioe anorffenedig?

Mae sioe anorffenedig yn caniatáu defnyddio lensys amrywiol i newid sut y caiff ei chanfod, ei dehongli a’i deall. Rydym ni am ddefnyddio fframwaith anorffenedig ein curadu i ddatblygu senarios cynaliadwy ar gyfer ein cenedlaethau yn y dyfodol. Mae sioe anorffenedig yn ein galluogi i ddechrau deialog gyda chi, dod â chi’n agosach at ein prosesau a chreu’r potensial i chi gymryd rhan yn ein gwaith. Gwahoddwn chi i gymryd rhan yn yr Ŵyl eleni, sy’n rhaglen o ddigwyddiadau dros 5 diwrnod i fyfyrio ar ein prosesau pensaernïaeth gydag academyddion a phobl broffesiynol. Mae’r Sioe Ffisegol wedi datblygu’n ddiwrnod i gloi’r Wyl eleni, er mai dim ond diwrnod arall yn ein taith ddysgu ydyw. Gwahoddwn chi i’n digwyddiadau i rannu eich syniadau a dod yn rhan o’n taith ddysgu. 

Mae ein gwefan wedi dod yn gasgliad o’n dulliau gweithio, ac rydym ni wedi cynllunio amrywiol bosibiliadau ar gyfer llywio drwy’r gwaith. Ar sail adborth gwefan arddangosfa’r flwyddyn flaenorol, cyflwynwn bedwar llwybr llywio: Thema, Cwrs, Myfyrwyr a Lleoliad.  Yn yr un modd, mae’r fframiau a ddefnyddir ar gyfer yr arddangosfa ffisegol wedi’u hadeiladu’n ofalus fel bod modd eu hailddefnyddio a’u haddasu ar gyfer ein sioeau yn y dyfodol. Yn wir, mae anorffenedig yn cynnig cyfleoedd o’r fath i werthuso, myfyrio ac esblygu’n barhaus.   

Proses 

Cynhaliwyd proses guradu ddwys i greu naratif i’n gwaith ar sail gadarn. Gwahoddwyd defnyddwyr i ddatblygu ‘tagiau’ o gylch eu prosesau fel rhan o’r broses lanlwytho. Yna dadansoddwyd y tagiau a grëwyd gan y defnyddwyr a’u syntheseiddio’n thematig gan y tîm curadu.  Arweiniodd y broses gasgliadol hon at greu wyth thema i gynrychioli ystod o brosesau a ddefnyddiwyd gan y myfyrwyr yn eu gwaith: Ysgogwyd gan ymchwil, Canolbwyntio ar y defnyddiwr, Chwyddo i mewn, Cynrychiolaeth, Morffoleg, Prototeip, Profi cysyniad ac Ar sail profiad.  Mae’r wyth thema’n galluogi cysylltiadau ar draws gwahanol gyrsiau a gwahanol flynyddoedd o fewn cwrs, gan ddangos esblygiad prosesau wrth i fyfyrwyr wneud cynnydd yn eu hastudiaethau.

Research Driven

YSGOGWYD GAN YMCHWIL

Mae prosiect a ‘Ysgogwyd gan ymchwil’ yn ystyried bod dadansoddi’r dystiolaeth yn rhan hanfodol o’r broses ddylunio. Mae’n cynnwys astudiaethau ansoddol a meintiol, er bod canfyddiadau’r astudiaethau hyn yn cael eu trosi’n bennaf yn ddata ffeithiol y gellir ei ddefnyddio fel rhan o broses arall fel ‘canolbwyntio ar y defnyddiwr’ neu ‘brofi cysyniad’. 

CANOLBWYNTIO AR Y DEFNYDDIWR

Mae prosiect sy’n ‘canolbwyntio ar y defnyddiwr’ yn ceisio gwerthuso dewisiadau dylunio ar sail yr effaith a gânt ar ddefnyddwyr. Yn gyffredinol, mae’r dull hwn yn canolbwyntio ar fater cymdeithasol penodol ac yn defnyddio amrywiol ddulliau i ennyn diddordeb defnyddwyr neu gynhyrchu cynigion dylunio’n seiliedig ar anghenion defnyddwyr. Gallai’r cynigion hyn esblygu ymhellach drwy ddull ar sail profiad.

Zooming in

CHWYDDO I MEWN

Mae dull ‘Chwyddo i mewn’ yn edrych ar ran benodol o’r adeilad ac yn archwilio amrywiaeth o nodweddion a chysylltiadau. Gallai dull o’r fath ganolbwyntio ar archwiliadau technegol a thectoneg a chynnwys lefel uchel o fanylion a huodledd pensaernïol.

Representation

CYNRYCHIOLAETH

Mae technegau cynrychioliadol yn hynod o bwysig mewn pensaernïaeth, a gall y dull gynnwys gweithio gyda  chyfryngau digidol a ffisegol mewn dimensiynau lluosog. Mae’r dull hwn yn archwilio sut y gallai cynnig dylunio deimlo neu geisio cyfleu profiad pensaernïol.

Morphology

MORFFOLEG

Mae’r dull morffolegol yn seiliedig ar astudiaeth o oblygiadau gofodol y dyluniad. Mae prosiect sy’n cael ei lywio gan ofod yn edrych ar astudiaethau tri dimensiwn, strategaethau trefol a chyfeintiau fel ysgogwyr hollbwysig i’r prosiect. Mae’r dull hwn yn helpu i ddeall integreiddio cyd-destunol, trefniant rhaglenni, a symudiadau dylunio lefel uchel.

Prototype

PROTOTEIP

Mae prototeipiau’n dangos posibiliadau ar gyfer gwella i ganiatáu ar gyfer iteriad. Mae’r dull hwn yn galluogi dylunwyr i brofi, gwerthuso a gwneud newidiadau i gynnig dylunio drwy sawl iteriad.

Concept-testing

PROFI CYSYNIAD

Bwriad prosiectau profi cysyniad yw cymhwyso syniadau damcaniaethol penodol yn eu dyluniad, profi cysyniadau haniaethol a rhoi cysyniadau ar waith. Mae’r broses yn cynnwys ymwneud â disgyrsiau ym maes pensaernïaeth a thu hwnt, a dehongli, cymhwyso a datblygu’r cysyniadau hynny drwy ddylunio.

Experiential

AR SAIL PROFIAD 

Mae dull ‘Ar sail profiad’ yn archwiliad ansoddol ar sail profiadau myfyrwyr, ymweliadau â lleoedd ac atgofion. Mae’n cynnwys astudiaethau atmosfferig yn defnyddio amrywiol gyfryngau ac archwilio gwahanol agweddau fel golau, sain, emosiwn a chof. Mae’r fethodoleg yn galluogi myfyrwyr i ddylunio trwy empathi a theimlad, gan siapio gofodau’n seiliedig ar y profiadau a fwriedir o’r gofod ac oddi mewn iddo. 

Cynnwys

Yn seiliedig ar brosesau curadu’r flwyddyn flaenorol oedd defnyddio dull yn canolbwyntio ar bwnc, daethom â’r termau hyn yn ôl a’u hailystyried yng nghyd-destun gweithiau eleni. Fe’u defnyddir fel ffilter eilaidd i lywio drwy’n gwaith a chreu dilyniant o arddangosfa’r llynedd. Rydym ni’n defnyddio’r Tagiau Cynnwys ar y cyd â Thagiau Proses i ddeall pam y dewiswyd proses benodol a sut y cafodd ei chymhwyso. Yn debyg i’r Tagiau Proses, caiff y Tagiau Cynnwys eu creu fel rhan o’r broses guradu o ddadansoddi a syntheseiddio tagiau a gynhyrchir gan ddefnyddwyr.

Gweithredaeth

Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Ysgogwyd gan ymchwil 

Bioamrywiaeth

Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Cynrychiolaeth, Chwyddo i mewn 

Economïau Pensaernïaeth Cylchol

Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Seiliedig ar ymchwil, Profi cysyniad 

Cymuned

Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys:  Canolbwyntio ar y defnyddiwr, Ysgogwyd gan ymchwil

Crefft a Materoldeb

Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Prototeip, Chwyddo i mewn

Amrywiaeth ddiwylliannol

Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Ysgogwyd gan ymchwil

Ecoleg

Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Cynrychiolaeth, Profi cysyniad

Iechyd a Lles 

Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Canolbwyntio ar y defnyddiwr, Ysgogwyd gan ymchwil

Hanes a Threftadaeth

Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Profi cysyniad, Ysgogwyd gan ymchwil

Seilwaith

Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Prototeip, Chwyddo i mewn

Arloesedd

Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Prototeip, Ysgogwyd gan ymchwil

Tirwedd

Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Ysgogwyd gan ymchwil

Ailddiffinio Gwledig

Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Profi cysyniad, Cynrychiolaeth

Adfywio a Hyblygrwydd

Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Ysgogwyd gan ymchwil, Morffoleg, Cynrychiolaeth

Gwerthoedd Cymdeithasol Pensaernïaeth

Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Canolbwyntio ar y defnyddiwr, Ysgogwyd gan ymchwil

Gwneuthurwyr y Sioe 

Core student-staff team

Cadeirydd

Macourley James

Arweinydd yr Arddangosfa Ffisegol

Rose Nicholson

Arweinydd yr Arddangosfa Ddigidol 

Zsófi Veres

Cyd-gadeirydd, Arweinydd Ôl-raddedig a Addysgir

Aishwarya Rajesh Pillai

Rebecca Tanduba

Cyd-gadeirydd, Arweinydd Ôl-raddedig Ymchwil

Menatalla Kasem

Arweinydd Trefniadau’r Arddangosfa

Kate Nash

Arweinydd yr Arddangosfa Ddigidol

Dr Hiral Patel

Dylunio & Datblygiad

Steffan Williams

David Kitchen

Jon Mynette (Succeed Digital)

Arweinydd yr Arddangosfa Ffisegol

Dan Tilbury

Dr Shibu Raman

Dr Federico Wulff

Y Tîm Digwyddiadau

Arweinydd y Tîm

Kirsty Lerchundi Mboengho 

Cydlynu

Macourley James

Aelodau’r Tîm

Cameron Jones

Patrick Clarkson

Tîm Graffeg

Arweinydd y Tîm

Elias Khlif

Julia Garnelo Gutierrez

Cydlynu

Zsófi Veres

Aelodau’r Tîm

Ben Maslin 

Tîm y Cyfryngau Cymdeithasol

Arweinydd y Tîm

Alex Hargreaves 

Cydlynu

Macourley James

Aelodau’r Tîm

Ben Maslin

Eesha Fatima

Y Tîm Nawdd 

Arweinydd y Tîm

Methila Ganasooriar 

Cydlynu

Rose Nicholson

Aelodau’r Tîm

Eesha Fatima

Tîm Dylunio’r Arddangosfa Ffisegol 

Arweinydd y Tîm

Adam Hogan 

Cydlynu

Rose Nicholson

Aelodau’r Tîm

Cameron Jones

Justyna Matuweszka

Phoebe Benbow

Y Tîm Dylunio Gwe

Arweinydd y Tîm

Julia Garnelo Gutierrez

Zsófi Veres 

Aelodau’r Tîm

Tanya Khanna 

Tîm y Blwyddlyfr

Arweinydd y Tîm

Elizabeth Rand

Tim Purves 

Cydlynu

Zsófi Veres

Aelodau’r Tîm

Eesha Fatima

Justyna Matuweszka

Kathy Szeto

Phoebe Benbow 

Ein Noddwyr

Rydym ni’n falch iawn i fod yn un o’r ychydig sioeau diwedd blwyddyn a arweinir gan fyfyrwyr. Rydym ni’n ddiolchgar am gefnogaeth ein noddwyr sydd wedi ein helpu i gyflawni uchelgais y flwyddyn a chyfoethogi ein taith ddysgu.

Ar gyfer Arddangosfa Myfyrwyr Ysgol Pensaernïaeth Cymru 2022, cawsom nawdd hael gan Formation Architects a Fosters and Partners. Rydym ni hefyd yn ddiolchgar am gyfraniadau Rio Architects, Ridge & Partners, Terrence O’Rourke Architects a Hyde + Hyde Architects.   

Mae’n deimlad cyffrous iawn i ni gael dyfarnu Gwobrau Ysgol Pensaernïaeth Cymru i’r gwaith gorau gan fyfyrwyr. Rydym ni’n ddiolchgar am gefnogaeth Fosters and Partners, Formation Architects, Rio Architects, Ridge & Partners, Terrence O’Rourke a Hyde + Hyde Architects am y profiad a’r gefnogaeth wrth greu’r Gwobrau hyn.

Mae’n bleser eich cael chi’n rhan o’r tîm!

Ein Casgliadau

WSA 2021

WSA 2020