Mae anorffenedig yn cyfeirio at natur benagored ein gwaith pensaernïol. Caiff prosiectau myfyrwyr eu datblygu o fewn y cyfnod cyfyngedig sydd ar gael er mwyn sicrhau bod gofynion y cwricwlwm yn cael eu bodloni. Fodd bynnag, yn aml nid yw’r prosiectau wedi’u gorffen ar y pwynt hwnnw, ac yn cynrychioli moment yn nhaith ddysgu’r myfyrwyr. Mae’r sioe’n dathlu’r ffaith y gallai’r prosiectau gael eu hailddatblygu’n barhaus wrth i’r myfyrwyr symud ymlaen ar eu teithiau dysgu ac yn eu gyrfaoedd.
Wrth guradu arddangosfeydd blaenorol, buom yn archwilio themâu’n canolbwyntio ar broblemau a’r materion oedd yn destun diddordeb i’r prosiectau. Eleni rydym ni wedi esblygu ein dull curadurol er mwyn dathlu’r prosesau pensaernïol a fabwysiadwyd i fynd i’r afael â gwahanol themâu. Yn yr ysbryd hwn, mae teipoleg anghonfensiynol pensaernïaeth – yr anorffenedig – yn amlygu natur benagored cynhyrchu pensaernïol. Mae hyn yn galluogi creu cysylltiadau rhwng prosesau pensaernïol a ddefnyddir i ymdrin ag amrywiol faterion pensaernïol – a thrwy hynny ddangos cyfoeth ymdrechion pensaernïol.
Mewn blynyddoedd blaenorol, buom yn archwilio themâu oedd yn canolbwyntio ar broblemau, ac arweiniodd hynny ni at amrywiol faterion yn ymwneud â chynaladwyedd. Eleni, symudwyd i ffwrdd oddi wrth ein dull cynnwys-benodol gan gyflwyno teipoleg anghonfensiynol, sef yr anorffenedig.
Mae anorffenedig yn symud i ffwrdd o’r caboledig a’r rhagddiffiniedig. Mae’r arddangosfa’n galw am broses guradu anorffenedig sy’n esblygu’n barhaus wrth i ymwelwyr lifo drwy’r gofod. Sefydlwyd y sioe anorffenedig hon fel man cychwyn. Rydym ni’n cyflwyno fframwaith y gellir ei archwilio a’i gwestiynu’n barhaus yn seiliedig ar y gwahanol lensys y mae’r ymwelwyr yn dod gyda nhw.
Rydym yn gosod ein gwaith yn y cyd-destun ehangach trwy’r arddangosfa anorffenedig hon. Un lle’r ydym ni’n datblygu ein gwaith dros amser trwy adborth academyddion, gweithwyr proffesiynol, a’r cyhoedd. Rydym ni’n agor yr arddangosfa i bawb, nid er mwyn canmol ffrwyth y flwyddyn hon ond i ddathlu ein cynnydd wrth i ni symud ymlaen ar ein taith ddysgu. Gwahoddwn chi i ymuno â ni ar y daith. Rydym ni’n agor ein prosesau a’n dulliau pensaernïol i chi gael cynnig eich beirniadaeth. Gobeithio y byddwch yn cymryd rhan yn ein prosesau drwy ryngweithio â’n gwaith.
Mae sioe anorffenedig yn caniatáu defnyddio lensys amrywiol i newid sut y caiff ei chanfod, ei dehongli a’i deall. Rydym ni am ddefnyddio fframwaith anorffenedig ein curadu i ddatblygu senarios cynaliadwy ar gyfer ein cenedlaethau yn y dyfodol. Mae sioe anorffenedig yn ein galluogi i ddechrau deialog gyda chi, dod â chi’n agosach at ein prosesau a chreu’r potensial i chi gymryd rhan yn ein gwaith. Gwahoddwn chi i gymryd rhan yn yr Ŵyl eleni, sy’n rhaglen o ddigwyddiadau dros 5 diwrnod i fyfyrio ar ein prosesau pensaernïaeth gydag academyddion a phobl broffesiynol. Mae’r Sioe Ffisegol wedi datblygu’n ddiwrnod i gloi’r Wyl eleni, er mai dim ond diwrnod arall yn ein taith ddysgu ydyw. Gwahoddwn chi i’n digwyddiadau i rannu eich syniadau a dod yn rhan o’n taith ddysgu.
Mae ein gwefan wedi dod yn gasgliad o’n dulliau gweithio, ac rydym ni wedi cynllunio amrywiol bosibiliadau ar gyfer llywio drwy’r gwaith. Ar sail adborth gwefan arddangosfa’r flwyddyn flaenorol, cyflwynwn bedwar llwybr llywio: Thema, Cwrs, Myfyrwyr a Lleoliad. Yn yr un modd, mae’r fframiau a ddefnyddir ar gyfer yr arddangosfa ffisegol wedi’u hadeiladu’n ofalus fel bod modd eu hailddefnyddio a’u haddasu ar gyfer ein sioeau yn y dyfodol. Yn wir, mae anorffenedig yn cynnig cyfleoedd o’r fath i werthuso, myfyrio ac esblygu’n barhaus.

Proses
Cynhaliwyd proses guradu ddwys i greu naratif i’n gwaith ar sail gadarn. Gwahoddwyd defnyddwyr i ddatblygu ‘tagiau’ o gylch eu prosesau fel rhan o’r broses lanlwytho. Yna dadansoddwyd y tagiau a grëwyd gan y defnyddwyr a’u syntheseiddio’n thematig gan y tîm curadu. Arweiniodd y broses gasgliadol hon at greu wyth thema i gynrychioli ystod o brosesau a ddefnyddiwyd gan y myfyrwyr yn eu gwaith: Ysgogwyd gan ymchwil, Canolbwyntio ar y defnyddiwr, Chwyddo i mewn, Cynrychiolaeth, Morffoleg, Prototeip, Profi cysyniad ac Ar sail profiad. Mae’r wyth thema’n galluogi cysylltiadau ar draws gwahanol gyrsiau a gwahanol flynyddoedd o fewn cwrs, gan ddangos esblygiad prosesau wrth i fyfyrwyr wneud cynnydd yn eu hastudiaethau.
YSGOGWYD GAN YMCHWIL
Mae prosiect a ‘Ysgogwyd gan ymchwil’ yn ystyried bod dadansoddi’r dystiolaeth yn rhan hanfodol o’r broses ddylunio. Mae’n cynnwys astudiaethau ansoddol a meintiol, er bod canfyddiadau’r astudiaethau hyn yn cael eu trosi’n bennaf yn ddata ffeithiol y gellir ei ddefnyddio fel rhan o broses arall fel ‘canolbwyntio ar y defnyddiwr’ neu ‘brofi cysyniad’.
CANOLBWYNTIO AR Y DEFNYDDIWR
Mae prosiect sy’n ‘canolbwyntio ar y defnyddiwr’ yn ceisio gwerthuso dewisiadau dylunio ar sail yr effaith a gânt ar ddefnyddwyr. Yn gyffredinol, mae’r dull hwn yn canolbwyntio ar fater cymdeithasol penodol ac yn defnyddio amrywiol ddulliau i ennyn diddordeb defnyddwyr neu gynhyrchu cynigion dylunio’n seiliedig ar anghenion defnyddwyr. Gallai’r cynigion hyn esblygu ymhellach drwy ddull ar sail profiad.
CHWYDDO I MEWN
Mae dull ‘Chwyddo i mewn’ yn edrych ar ran benodol o’r adeilad ac yn archwilio amrywiaeth o nodweddion a chysylltiadau. Gallai dull o’r fath ganolbwyntio ar archwiliadau technegol a thectoneg a chynnwys lefel uchel o fanylion a huodledd pensaernïol.
CYNRYCHIOLAETH
Mae technegau cynrychioliadol yn hynod o bwysig mewn pensaernïaeth, a gall y dull gynnwys gweithio gyda chyfryngau digidol a ffisegol mewn dimensiynau lluosog. Mae’r dull hwn yn archwilio sut y gallai cynnig dylunio deimlo neu geisio cyfleu profiad pensaernïol.
MORFFOLEG
Mae’r dull morffolegol yn seiliedig ar astudiaeth o oblygiadau gofodol y dyluniad. Mae prosiect sy’n cael ei lywio gan ofod yn edrych ar astudiaethau tri dimensiwn, strategaethau trefol a chyfeintiau fel ysgogwyr hollbwysig i’r prosiect. Mae’r dull hwn yn helpu i ddeall integreiddio cyd-destunol, trefniant rhaglenni, a symudiadau dylunio lefel uchel.
PROTOTEIP
Mae prototeipiau’n dangos posibiliadau ar gyfer gwella i ganiatáu ar gyfer iteriad. Mae’r dull hwn yn galluogi dylunwyr i brofi, gwerthuso a gwneud newidiadau i gynnig dylunio drwy sawl iteriad.
PROFI CYSYNIAD
Bwriad prosiectau profi cysyniad yw cymhwyso syniadau damcaniaethol penodol yn eu dyluniad, profi cysyniadau haniaethol a rhoi cysyniadau ar waith. Mae’r broses yn cynnwys ymwneud â disgyrsiau ym maes pensaernïaeth a thu hwnt, a dehongli, cymhwyso a datblygu’r cysyniadau hynny drwy ddylunio.
AR SAIL PROFIAD
Mae dull ‘Ar sail profiad’ yn archwiliad ansoddol ar sail profiadau myfyrwyr, ymweliadau â lleoedd ac atgofion. Mae’n cynnwys astudiaethau atmosfferig yn defnyddio amrywiol gyfryngau ac archwilio gwahanol agweddau fel golau, sain, emosiwn a chof. Mae’r fethodoleg yn galluogi myfyrwyr i ddylunio trwy empathi a theimlad, gan siapio gofodau’n seiliedig ar y profiadau a fwriedir o’r gofod ac oddi mewn iddo.
Cynnwys
Yn seiliedig ar brosesau curadu’r flwyddyn flaenorol oedd defnyddio dull yn canolbwyntio ar bwnc, daethom â’r termau hyn yn ôl a’u hailystyried yng nghyd-destun gweithiau eleni. Fe’u defnyddir fel ffilter eilaidd i lywio drwy’n gwaith a chreu dilyniant o arddangosfa’r llynedd. Rydym ni’n defnyddio’r Tagiau Cynnwys ar y cyd â Thagiau Proses i ddeall pam y dewiswyd proses benodol a sut y cafodd ei chymhwyso. Yn debyg i’r Tagiau Proses, caiff y Tagiau Cynnwys eu creu fel rhan o’r broses guradu o ddadansoddi a syntheseiddio tagiau a gynhyrchir gan ddefnyddwyr.
Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Ysgogwyd gan ymchwil
Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Cynrychiolaeth, Chwyddo i mewn
Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Seiliedig ar ymchwil, Profi cysyniad
Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Canolbwyntio ar y defnyddiwr, Ysgogwyd gan ymchwil
Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Prototeip, Chwyddo i mewn
Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Ysgogwyd gan ymchwil
Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Cynrychiolaeth, Profi cysyniad
Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Canolbwyntio ar y defnyddiwr, Ysgogwyd gan ymchwil
Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Profi cysyniad, Ysgogwyd gan ymchwil
Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Prototeip, Chwyddo i mewn
Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Prototeip, Ysgogwyd gan ymchwil
Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Ysgogwyd gan ymchwil
Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Profi cysyniad, Cynrychiolaeth
Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Ysgogwyd gan ymchwil, Morffoleg, Cynrychiolaeth
Gallai Prosesau Cyffredin gynnwys: Canolbwyntio ar y defnyddiwr, Ysgogwyd gan ymchwil
Gwneuthurwyr y Sioe
Core student-staff team
Cadeirydd
Arweinydd yr Arddangosfa Ffisegol
Arweinydd yr Arddangosfa Ddigidol
Cyd-gadeirydd, Arweinydd Ôl-raddedig a Addysgir
Cyd-gadeirydd, Arweinydd Ôl-raddedig Ymchwil
Arweinydd Trefniadau’r Arddangosfa
Arweinydd yr Arddangosfa Ddigidol
Dylunio & Datblygiad
Steffan Williams
David Kitchen
Jon Mynette (Succeed Digital)
Y Tîm Curadu
Arweinydd y Tîm
Cydlynu
Aelodau’r Tîm
Y Tîm Digwyddiadau
Arweinydd y Tîm
Cydlynu
Aelodau’r Tîm
Tîm Graffeg
Arweinydd y Tîm
Cydlynu
Aelodau’r Tîm
Tîm y Cyfryngau Cymdeithasol
Arweinydd y Tîm
Cydlynu
Aelodau’r Tîm
Tîm Dylunio’r Arddangosfa Ffisegol
Arweinydd y Tîm
Cydlynu
Aelodau’r Tîm
Tîm y Blwyddlyfr
Arweinydd y Tîm
Cydlynu
Aelodau’r Tîm
Ein Noddwyr
Rydym ni’n falch iawn i fod yn un o’r ychydig sioeau diwedd blwyddyn a arweinir gan fyfyrwyr. Rydym ni’n ddiolchgar am gefnogaeth ein noddwyr sydd wedi ein helpu i gyflawni uchelgais y flwyddyn a chyfoethogi ein taith ddysgu.
Ar gyfer Arddangosfa Myfyrwyr Ysgol Pensaernïaeth Cymru 2022, cawsom nawdd hael gan Formation Architects a Fosters and Partners. Rydym ni hefyd yn ddiolchgar am gyfraniadau Rio Architects, Ridge & Partners, Terrence O’Rourke Architects a Hyde + Hyde Architects.
Mae’n deimlad cyffrous iawn i ni gael dyfarnu Gwobrau Ysgol Pensaernïaeth Cymru i’r gwaith gorau gan fyfyrwyr. Rydym ni’n ddiolchgar am gefnogaeth Fosters and Partners, Formation Architects, Rio Architects, Ridge & Partners, Terrence O’Rourke a Hyde + Hyde Architects am y profiad a’r gefnogaeth wrth greu’r Gwobrau hyn.
Mae’n bleser eich cael chi’n rhan o’r tîm!
Ein Casgliadau
WSA 2021
WSA 2020